5

Caernarfon Lân

Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment

Caernarfon Lân

Llun o gyfarfod cyhoeddus i drigolion Caernarfon oedd eisiau clywed mwy am y datblygiadau a gynigwyd

Rydym yn grŵp o drigolion Caernarfon a chefnogwyr pryderus sy’n dymuno gwarchod y gymuned a’i hamgylchedd rhag effeithiau niweidiol dau ddatblygiad a gynlluniwyd gan Jones Brothers Ltd yn ac o gwmpas hen safle gwaith brics Seiont, Caernarfon.

Mae Jones Brothers (Civil Engineering) Co Ltd a’u his-gwmni, Seiont Ltd wedi gwneud cais am ganiatâd i osod 'ffatri brig' wedi ei bweru gan 10 injan nwy i gynyrchu 20MW, wedi’i bweru gan ddeg injan nwy a hefyd am wneud cais am ffatri malu concrit gyda newidiadau ffyrdd cysylltiedig i'w defnyddio'n barhaus gyda amcangyfrif o 120 o lorïau HGV y dydd. Bwriedir i’r ddwy weithred niweidiol iawn hyn fod wrth ymyl ei gilydd ar safle Chwarel Seiont, sydd wedi’i amgylchynu gan eiddo preswyl cyfagos, stadau tai, ysbyty a chyfleusterau hamdden ar un ochr, ac Afon Seiont a choetir naturiol hynafol ar yr ochr arall.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cais yma:

DNS CAS-02628-Y1D2Z7 - Seiont Quarry Gas Peaking Plant Planning Casework (gov.wales) - dewisiwch edrych ar y ‘Main Party - Submission Document’ yn unig, er mwyn cuddio y dogfennau cyn-gyflwyno sydd hefyd dal ar y safle.

Gwaith malu concrid: https://amg.gwynedd.llyw.cymru/planning/index.html?fa=getApplication&id=35303&language=cy - neu chwiliwch am gyfeirnod rhif 
C24/0297/19/LL. Bydd angen mewngofnodi i adael sylw. 


Rydym wedi dechrau deiseb - cliciwch yma i ddarllen mwy ac i lofnodi. 



Discover more from Caernarfon Lân

Subscribe to get the latest posts to your email.

Scroll to Top