-
Llygredd aer: Mae gweithfeydd brig sy'n llosgi nwy yn allyrru nifer o lygryddion niweidiol gan gynnwys Ocsidau Nitrogen (NOx). Mae effeithiau NOx ar iechyd yn cynnwys cynnydd mewn clefydau anadlol ac asthma; llid y llygaid, y trwyn a'r gwddf; cyflyrau'r galon; a niwed i'r ysgyfaint. Bydd y gweithrediadau prosesu contrid yn ychwanegu at y llygryddion hyn, gan gynyddu'r risg i bobl a natur trwy gynhyrchu “llwch ffo” a gronynnau (PM10 a PM2). Bydd pobl sy’n byw gerllaw, cleifion a staff Ysbyty Eryri, a phlant ac oedolion sy’n defnyddio’r caeau rygbi a’r cae pêl-droed yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yn anadlu’r tocsinau, llwch a gronynnau, sy’n arbennig o niweidiol os cânt eu hanadlu yn ystod cyfnodau o ymarfer corff trwm. .
-
Llygredd sŵn: Bydd lefelau sŵn o'r deg injan nwy a'u gwyntyllau oeri, o'r gweithrediadau malu a phrosesu concrit trwm ar y safle ac o symudiadau amcangyfrifedig 120 o loriau'r dydd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd wedi adrodd bod sŵn anthropogenig (h.y. sŵn a achosir gan weithgareddau dynol, megis diwydiant) yn ail yn unig i lygredd aer fel yr amlygiad amgylcheddol sydd fwyaf niweidiol i iechyd y cyhoedd.
-
Mynediad a thraffig: Byddai'r gwaith malu concrit yn arwain at lif parhaol uchel o HGV a thraffig arall (1 lori bob 5 munud, 10 awr y dydd, 5.5 diwrnod yr wythnos) ar yr holl ffyrdd sy'n arwain at y safle, gan gynnwys ar Seiont Mill Road. Bydd HGVs yn cludo gwastraff a choncrit wedi'i ailbrosesu yn ôl ac ymlaen i'r gwaith malu, gan yrru trwy Gaeathro a Pharc Muriau/Seiont Mill Road bob dydd.
-
Difrod i ecosystemau a bioamrywiaeth: Bydd y llygredd aer a sŵn, a grybwyllwyd uchod mewn perthynas ag iechyd a lles dynol, hefyd yn effeithio'n negyddol ar y pridd, coed, dŵr, planhigion, adar ac anifeiliaid yn yr ardal gyfagos, gan niweidio ecosystemau cain ac arwain at golli bioamrywiaeth.
-
Cyfrannu at newid hinsawdd: Mae gan Lywodraeth Cymru darged i Gymru gyrraedd 100% o’i defnydd blynyddol o drydan o drydan adnewyddadwy erbyn 2035. Mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gyda’r uchelgais o fod yn gyngor di-garbon net ac yn ecolegol bositif erbyn 2030. byddai gwaith brigo nwy arfaethedig yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.
-
Risgiau i lesiant cenedlaethau’r dyfodol: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i geisio atal problemau parhaus fel anghydraddoldebau iechyd a’r niwed a achosir gan newid hinsawdd. Mae'n cynnwys saith Nod Llesiant Genedlaethol: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Byddai effaith y datblygiad arfaethedig hwn yn negyddol ar draws pob un o'r saith nod hyn.