5

Caernarfon Lân

Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment

DIWEDDARIAD: Gwybodaeth bellach wedi’i chyhoeddi ar gyfer sylwadau

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CAIS AM FFATRI BRIG NWY

Ym mis Gorffennaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar gais Jones Brothers i adeiladu gwaith "brig" wedi'u bweru gan nwy yng Nghaernarfon, gofynnodd arolygiaeth cynllunio Llywodraeth Cymru, PEDW, am ragor o wybodaeth gan Jones Brothers a Chyngor Gwynedd ar nifer o’r materion sy’n peri pryder i Gaernarfon a oedd Caernarfon Lân ac eraill wedi codi.

Mae'r wybodaeth bellach hon bellach wedi'i chyhoeddi ar-lein ar y Porth Gwaith Achos (gweler y linc isod) ac mae ail gyfnod o ymgynghori cyhoeddus wedi'i lansio gan PEDW ar gyfer ymatebion ar y cynnwys newydd hwn. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 17 Hydref 2024.

Sut i weld y wybodaeth newydd

https://planningcasework.service.gov.wales/cy - Chwiliwch am CAS-02628-Y1D2Z7
• Dogfennau’n dechrau gyda - ‘2024-09-03 – APP Further Information’ a ‘2024-09-05 – LPA - Further Information'

Mae pwyllgor Caernarfon Lan yn gweithio’n galed i ddadansoddi’r dogfennau newydd hyn a bydd yn gwneud argymhellion i’n cefnogwyr ar sut i ymgysylltu â’r ymgynghoriad erbyn diwedd mis Medi.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top