5

Caernarfon Lân

Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment

Ffatri brigo nwy – 3 gwrandawiad wedi’u cadarnhau (Chwefror 18, 19 a 20)!

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) bellach wedi trefnu cyfres o sesiynau gwrandawiad cyhoeddus rhithwir i archwilio’r gwaith brigo nwy* ymhellach. Mae'r gwrandawiadau hyn yn gyfle hollbwysig i godi pryderon a sicrhau bod lleisiau'r gymuned yn cael eu clywed.

*Adeiladu ‘STOR’ 20Mwe (gronfa weithredu tymor byr, y cyfeirir ato fel ‘peaking plant’). Mae'r datblygiad yn cynnwys 10 injan wedi’i danio gan nwy naturiol a seilwaith cysylltiedig. Bydd y setiau cynhyrchu, ystafell swits a’r adeilad gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu i gyd o fewn compownd wedi'i ffensio o tua 3300 metr sgwâr. Bydd ceblau ‘twin’ yn cael eu gosod mewn ffos sengl ar hyd ffordd halio bresennol i gysylltu â chysylltiad grid 33KV presennol ger ffin ogleddol y chwarelTOR 20Mwe (wrth gefn gweithredu tymor byr), a elwir yn aml yn waith brigo, sy'n cynnwys 10 injan nwy naturiol a seilwaith cysylltiedig o fewn compownd wedi'i ffensio 3300 metr sgwâr

Dyma'r manylion

  1. Gwrandawiad 1: Effaith Sŵn
    • Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025
    • Ffocws: Digonolrwydd asesiadau effaith sŵn, effeithiau ar drigolion cyfagos, a mesurau lliniaru posib.
    • Mae Seiont Ltd, Cyngor Gwynedd a Caernarfon Lân wedi eu gwahodd i gymryd rhan
  2. Gwrandawiad 2: Ansawdd Aer
    • Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Chwefror 2025
    • Ffocws: Effaith y prosiect ar ansawdd aer, yn enwedig ar drigolion cyfagos, ecoleg leol, a safleoedd sensitif fel ardaloedd coetir.
    • Mae Seiont Ltd, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Caernarfon Lân wedi eu gwahodd i gymryd rhan
  3. Gwrandawiad 3: Amodau Cynllunio
    • Dyddiad: Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
    • Ffocws: Amodau cynllunio arfaethedig a materion heb eu datrys ynglŷn â'r datblygiad.
    • Mae Seiont Ltd, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Caernarfon Lân wedi eu gwahodd i gymryd rhan

Mae pob sesiwn yn dechrau am 10:00 AM a byddant yn cael eu cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams. Maent yn agored i'r cyhoedd, a gall unrhyw un sydd â diddordeb arsylwi'r trafodaethau. Hyd yn hyn, nid ydym wedi derbyn linc, fodd bynnag byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd gennym fanylion.

Yn y cyfamser...

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu anghenion ein cymuned a'r amgylchedd. Diolch i rai rhoddion caredig iawn gan bobl leol a chefnogwyr gofalgar eraill, rydym wedi llwyddo i gael ein hymgynghorwyr Awyr a Sŵn ein hunain i ddod o hyd i fethiannau technegol, camgymeriadau a hepgoriadau yn yr adroddiadau y mae ymgynghorwyr Jones Brothers wedi'u cynhyrchu ar gyfer pob un o'u Ceisiadau.

Mae ein hymgynghorwyr wedi cynhyrchu dau adroddiad technegol llawn ar ein cyfer, ond gwan iawn fydd dylanwad yr adroddiadau hyn oni bai ein bod yn gallu talu'r ymgynghorwyr i fynychu'r Gwrandawiadau Cyhoeddus a dadlau ar ein rhan yn erbyn amddiffynfeydd a gyflwynir gan ymgynghorwyr Jones Brothers.

Yn garedig iawn, mae'r ddau o'n hymgynghorwyr wedi codi tâl gostyngol 'cyfraddau cymunedol' arnom, ond mae'n rhaid i ni rwan godi mwy o arian yn gyflym iawn, tuag at ein targed o £10,000, er mwyn talu i'r arbenigwyr hynny i sefyll ochr yn ochr â ni yng nghamau nesaf o'r frwydr: cliciwch yma i weld ein tudalen GoFundMe ac i gyfrannu.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus!

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â ni.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top