Dyma ddiweddariad ar y Gwardawiadau Cyhoeddus hefo PEDW ar y gwaith brigo nwy ar Chwefror 18, 19 a 20.
Roedd Sesiwn y diwrnod cyntaf (18-02-25) ar Sŵn – yn hir a chaled ond roedd ein Bargyfreithiwr, ein Hymgynghorydd Sŵn a ni i gyd yn teimlo ein bod wedi llwyddo i sgorio rhai ‘hits’ solet da. Efallai bod rhai pobl oedd yn gwrando i mewn wedi cael eu poeni’n ddiangen gan y sesiwn ‘Amodau’ ar ddiwedd yr agenda – gyda’i sôn am ‘lliniaru’ ac ati; ond roedd ein Bargyfreithiwr wedi rhoi tawelwch meddwl i ni o flaen llaw gan mai gweithdrefn safonol yn unig oedd mewn gwrandawiadau o’r math hwn, sy’n darparu rhwyd ddiogelwch ‘heb ragfarn’ pe bai’r Arolygydd yn penderfynu’n derfynol ei bod eisiau / gorfod cymeradwyo'r cais. Os bydd hynny’n digwydd, bydd cael amodau cryf a da mewn lle yn sicrhau nad yw canlyniad gwael yn troi’n un gwirioneddol ofnadwy; felly mae'n bwysig iawn llunio amodau manwl a chynhwysfawr - yn ddelfrydol rhai na all yr Ymgeiswyr ddod â nhw eu hunain i'w derbyn….!
Roedd yr ail ddiwrnod ar Llygredd Aer yn sesiwn fyrrach a dechreuon deimlo’n hyderus erbyn hynny ein bod ar yr ‘ochr fuddugol’….. Roedd ein Hymgynghorydd Aer yn amlwg wedi ennill diddordeb a pharch yr Arolygydd – ac unwaith eto roedd yn ymddangos ein bod wedi sgorio rhai ‘hits’ cryf iawn. Bu peth fewnbwn cynrychiolwyr Cyngor Gwynedd hefyd yn ddefnyddiol iawn i’n dadleuon – yn arbennig gan y Timau Gwarchod y Cyhoedd a Bioamrywiaeth. Bu cryn drafod ar un o’r amodau drafft, y cyfrannodd ein Hymgynghorydd gryn dipyn ato, a gofynnodd yr Arolygydd i Swyddogion Cynllunio’r Cyngor wneud newidiadau a oedd yn adlewyrchu’r trafodaethau hynny a’u hanfon ati erbyn y diwrnod canlynol. Roedd swyddogion y Cyngor yn ddiolchgar iawn i gael mewnbwn arbenigol ein Hymgynghorydd Aer, a diolch i'r cydweithio proffesiynol, drafftiwyd amod llawer cryfach yn y prynhawn a'i gyflwyno i Arolygydd PEDW; ond deallir nad oedd yr amod newydd yn dderbyniol i gynrychiolwyr Jones Brothers, a gyflwynodd fersiwn eu hunain.
Neilltuwyd y trydydd diwrnod i ragor o waith ar amodau ac ymunodd ein dau Ymgynghorydd i gefnogi ein Bargyfreithiwr a minnau yn y sesiwn honno.
Ar y cyfan ar ddiwedd y sesiynau hyn roedd gennym deimlad da am y ffordd roedd pethau wedi mynd ac rydym yn hyderus bod ein ‘tîm’ wedi gwneud eu gorau. Dywedodd ein Bargyfreithiwr ein bod wedi rhoi digon o resymau i’r Arolygydd wrthod y cais, a gobeithiwn a gweddïwn y gwnaiff….!
Mae’r penderfyniad terfynol yn cael ei ddirprwyo i Arolygydd PEDW yn unig ac mae’n bosib iawn y bydd hi’n cymryd wythnosau neu hyd yn oed fisoedd lawer i gyrraedd y pwynt hwnnw. Os dylai hi ddigwydd wneud y penderfyniad anghywir a chymeradwyo’r cais, ein hopsiynau nesaf yw gweld yn gyntaf a ellir perswadio Gweinidogion Llywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad ac yna, os methir â gwneud hynny, i geisio adolygiad barnwrol. Teimlan ein bod wedi gwneud dechrau cryf hyd yma, a chredwn ein bod mewn sefyllfa dda i wynebu Adolygiad Barnwrol os bydd angen…..
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus, anogaeth a phenderfyniad ac am y rhoddion ariannol gwych y mae cymaint ohonoch wedi'u gwneud mewn ymateb i'n galwadau am gymorth. Mae'r rhoddion hynny wedi sicrhau'r mewnbwn proffesiynol rhagorol i ni a oedd yn amlwg wedi curo tyllau yn honiadau a dadleuon Jones Brothers yn ystod y tri gwrandawiad!
Pe bai’r frwydr yn mynd yn ei blaen, fel y mae’n debygol iawn i wneud, naill ai oherwydd bod y penderfyniad yn mynd ein ffordd a Jones Brothers yn cyflwyno apêl, neu oherwydd bod yr Arolygydd yn penderfynu o blaid y cais a bod yn rhaid inni geisio adolygiad barnwrol, rydym yn mynd i fod angen cymorth ariannol parhaus ar gyfer y rownd nesaf o fewnbwn proffesiynol….; felly os nad ydych wedi mynd ati i wneud cyfraniad eto, neu os ydych yn adnabod rhywun arall a allai, ewch i'n tudalen https://gofund.me/6c80e0b6 ac anogwch eraill i wneud hynny... diolch!!!