5

Caernarfon Lân

Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment

DIWEDDARIAD: Angen Tystiolaeth ac Arbennigwyr!

Dyma’r diweddariad diweddaraf ar hynt ein gwrthwynebiadau i’r ddau gais Jones Brothers yn cynnig gwaith brigo nwy 10 injan a gwaith prosesu concrit (gyda thraffig uchel cysylltiedig) ar hen safle gwaith brics Seiont yng Nghaernarfon.

Y penawdau ar gyfer y rhai ohonoch sydd heb amser ar gyfer y manylion: (sgroliwch ymlaen i lawr os oes gennych chi!)

- Mae Jones Brothers bellach wedi cyflwyno eu hatebion i’r 14 cwestiwn y gofynnodd PEDW (Arolygiaeth Llywodraeth Cymru) iddynt.

- Rydym nawr yn chwilio ar frys am Broffesiynwyr / Arbenigwyr i edrych yn agosach ar yr holl atebion amddiffynol y mae Jones Brothers wedi'u cyflwyno - â allai gostio rhywfaint o arian i ni.

- Roedd gan ‘bob parti â diddordeb’, gan gynnwys pob un ohonom, tan 17 Hydref i wneud sylwadau ffurfiol ar ymatebion diweddaraf JB i PEDW.

- Mae Caernarfon Lân wedi derbyn gwahoddiad gan PEDW i fod yn bresennol, ar eich rhan, yn y Gwrandawiadau Cyhoeddus ar Sŵn, Ansawdd Aer ac Amodau Cynllunio – nid yw'r dyddiadau ar gyfer y rhain yn hysbys eto.

- Ysgrifennodd Sian Gwenllian MS at Dafydd Williams, Pennaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd ynglŷn â'r aflonyddwch i drigolion lleol o ganlyniad i weithgareddau Jones Brothers ar y safle.

- Datgelodd ymateb Dafydd Williams fod y Cwmni wedi bod yn torri amodau cynllunio cyfredol. Dywedodd Swyddogion Cynllunio wrthynt y “dylent stopio.... cyn gynted â phosib”; ond mae Pwyllgor Caernarfon Lân wedi casglu tystiolaeth fideo diweddar yn profi nad ydynt wedi stopio!

- Ysgrifennom at yr Adran Gynllunio i adrodd am y gweithgareddau sy'n parhau ac rydym wedi derbyn ateb yn ein hysbysu eu bod wedi agor achos gorfodi (cyfeirnod G24/0155) a'i bod yn ofynnol ar Jones Brothers i ymateb i'r Hysbysiad Tramgwyddo Cynllunio a gyhoeddwyd. Diolchodd y Swyddog Cynllunio i ni am gasglu tystiolaeth ac anogodd y trigolion i anfon rhagor at cynllunio@gwynedd.llyw.cymru gweler isod.

- Os ydych chi wedi profi unrhyw aflonyddwch oherwydd gweithgareddau ar y safle, anfonwch e-bost at y Cyngor am hyn (manylion isod ar sut i wneud hynny).

- Yn ein e-bost i'r Adran Gynllunio fe wnaethom hefyd gwyno nad yw'r Cwmni'n cael ei ddwyn i gyfrif am dorri'r amodau cynllunio sy'n ymwneud â gofynion adfer safle, a oedd ynghlwm wrth y caniatâd dros dro a roddwyd iddynt ar gyfer gwaith ffordd osgoi.

- Fe'n hysbyswyd hefyd fod y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn cynnal ymchwiliad ar wahân i gŵyn Niwsans Statudol oherwydd sŵn ar safle chwarel Seiont a gwaith dymchwel ar Stad Ddiwydiannol Melin Peblig.



- Canfuom ac adroddwyd am ddiffygion difrifol yng nghyflwyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru i Gyngor Gwynedd ynglŷn â'r cynigion concrit a ffyrdd mynediad – manylion isod.

- Daeth ymgynghoriad y Cyngor ar y cais hwn i ben ar 7 Hydref.

- Rydym wedi cyflwyno ein cais ffurfiol i gynrychiolydd o Gaernarfon Lân gael siarad yng Nghyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio fydd yn penderfynu ar y Cais – rydym yn gwybod bellach y bydd yn cael ei gynnal ar y 9fed o Ragfyr.

1) Atebion Jones Brothers i’r 14 cwestiwn gan PEDW:

Dyma’r brif ddogfen ymateb gan Jones Brothers i’r 14 cwestiwn gan PEDW – gallwch hefyd ei lawrlwytho’n syth o wefan PEDW os ydych yn dymuno, trwy glicio ar y ddolen hon:

https://planningcasework.service.gov.wales/api/documents/download/A54903301?hash=c16aaa5d11cb70bdeeec4677c423c64d38dc2741cb5334f5bf2c6f632b3060f6


Rydym wedi rhoi ein hymateb ffurfiol (oedd angen mynd i mewn erbyn 17 Hydref) i'r ymatebion amddiffynol pellach â gyflwynwyd gan y Cwmni yn eu hymateb i PEDW.


Dyma beth mae PEDW wedi’i ddweud am hynny:

“Cadarnhaodd ein llythyr dyddiedig 11.07.2024 fod yr Arolygydd wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan yr Ymgeisydd a’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’r wybodaeth bellach wedi’i chyflwyno ac mae ar gael i’w gweld ar-lein ar y Porth Gwaith Achos:
https://planningcasework.service.gov.wales - Chwiliwch am CAS-02628-Y1D2Z7

Chwiliwch am y Dogfennau sy’n dechrau gyda ‘2024-09-03–Gwybodaeth Bellach APP’

a  ‘2024-09-05–Gwybodaeth Bellach ACLl'

Os bydd unrhyw barti’n dymuno gwneud unrhyw gynrychioliadau pellach, mewn perthynas â’r dogfennau a enwir uchod yn unig, yna gallant wneud hynny erbyn 17.10.2024 fan bellaf. Bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir nad ydynt yn ymwneud â’r dogfennau a enwir uchod yn cael eu diystyru.”
Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu cyhoeddi ar-lein i'r Porth Gwaith Achos”

2) Rydym hefyd wedi cael ein gwahodd gan PEDW, ar ein cais, i fod yn rhan o dri o'r pedwar gwrandawiad cyhoeddus y maent yn disgwyl eu cynnal: Ansawdd Aer, Sŵn ac Amodau Cynllunio. Rydym yn gadael y gwrandawiad ar Berygl Llifogydd at rai fel CNC; fodd bynnag byddwn hefyd yn mynychu hwnnw fel arsylwyr, a gall pob un ohonoch ei wneud hefyd - ar gyfer pob un o'r pedwar gwrandawiad. Cyn gynted ag y bydd PEDW yn ein hysbysu o'r dyddiadau a'r trefniadau ar gyfer y gwrandawiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi - rydym yn amau na fyddant yn digwydd tan ar ôl y Nadolig ac nid ydym yn gwybod eto ble na sut y cânt eu cynnal -' wyneb yn wyneb', ar-lein neu 'hybrid'.

3) Chwilio am gefnogaeth arbenigwr: Rydym wedi derbyn rywfaint o fewnbwn arbenigol i gryfhau ein dadleuon ond mae angen mwy arnom, ar gyfer ein hymateb ffurfiol i’r cyflwyniad diweddara gan JB ac ar gyfer ein paratoadau pellach erbyn y gwrandawiadau cyhoeddus, ac efallai y bydd yn rhaid inni dalu am rywfaint o’r mewnbwn arbenigol hwnnw.

Rhwng nawr a chyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor, a rhwng nawr a gwrandawiadau cyhoeddus PEDW, gwaith y pwyllgor fydd adeiladu ein hachos ymhellach yn erbyn y ddau gynnig, gan ei gryfhau gyda mewnbwn arbenigedd academaidd/proffesiynol i gyfateb â’r dadleuon proffesiynol y talwyd amdanynt gan Jones Bothers.    Bydd cael dadansoddiad annibynnol  academaidd/proffesiynol am adroddiadau ymgynghorwyr Jones Brothers hefyd yn helpu ein bargyfreithiwr i adeiladu achos cryf o’n plaid. Yn anffodus, mae cost gweddol uchel fel arfer i gael cyngor fel hyn ac ar hyn o bryd dim ond ychydig gannoedd o bunnoedd sydd gan Caernarfon Lân yn ei gyfrif banc. Mae hynny wedi dod o roddion caredig iawn, yr ydym wedi bod yn ddiolchgar iawn amdanynt yn wir!

Rydym wedi ysgrifennu at nifer o bobl a sefydliadau yn gofyn am gymorth a mewnbwn ‘pro bono’ (cymorth heb dâl), a hefyd gofyn, os nad ydynt mewn sefyllfa i gynnig cymorth i ni am ddim, faint y byddent yn ei godi o ran pris.


Rydym wedi cael dau gynnig calonogol iawn o gymorth hyd yn hyn – un, yn rhad ac am ddim, ar Adroddiad Ansawdd Aer Jones Brothers ac un ‘am bris gostyngol’ ar eu Hadroddiad Sŵn.  Cyn gynted ag y byddwn yn gwybod yn union pa gymorth y bydd angen i ni dalu amdano byddwn yn dod yn ôl atoch i gyd gyda tharged ariannu diwygiedig ar ein tudalen GoFundMe ac yn gofyn am ba bynnag gyfraniadau bach y gallech eu gwneud i helpu i brynu’r mewnbwn proffesiynol sydd ei angen arnom.
Byddwn yn eich diweddaru am hyn yn y gobaith pan ddaw'r amser y byddwch yn gallu sbario cyfraniad. Mae ein trysorydd yn berson proffesiynol gyda phrofiad o archwilio sector cyhoeddus, felly bydd eich arian yn ddiogel!

1) Daeth ymgynghoriad y Cyngor ar y cais hwn i ben ar 7 Hydref ac rydym bellach wedi cael gwybod y bydd eu Pwyllgor yn cyfarfod i benderfynu arno ar Rhagfyr y 9fed. Rydym wedi cyflwyno cais ffurfiol i gynrychiolydd o Gaernarfon Lân gael siarad yn y cyfarfod ac mae’r Swyddog Tîm Cynllunio wedi ymateb drwy nodi’r “bwriad”, sydd, gobeithio, yn golygu y bydd ein cais yn cael ei ganiatáu.

2) Mewn ymateb i lythyr ein Haelod Senedd Sian Gwenllian at Bennaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd, Dafydd Williams ynglŷn â aflonyddwch i drigolion lleol yn sgil gweithgareddau y mae Jones Brothers wedi bod yn eu cynnal ar y safle, datgelodd Mr Williams y darganfuwyd bod y Cwmni yn gweithredu'n groes i amodau cynllunio cyfredol. Dywedodd y Swyddogion Cynllunio wrthynt y “dylen nhw stopio ..... cyn gynted â phosib”; ond mae aelodau Pwyllgor Caernarfon Lân wedi casglu tystiolaeth fideo yn ddiweddar nad ydynt wedi stopio!

Tystiolaeth diweddar o weithgareddau Jones Brothers

3) Rydym hefyd wedi cwyno i’r Adran Gynllunio am y ffaith nad yw y Cwmni yn cael ei ddwyn i gyfrif am dorri amodau cynllunio yn ymwneud â gofynion adfer safle, â oedd ynghlwm wrth y caniatâd dros dro a roddwyd iddynt ar gyfer gwaith ffordd osgoi.

Gallwch ddarllen ein llythyrau at yr Adran Gynllunio am y materion hyn drwy glicio yma ac yma – a’u hymateb yma

Os yw’r rhai ohonoch sy’n byw yn yr ardal gyfagos wedi profi unrhyw aflonyddwch o ganlyniad i weithgarwch ar y safle e-bostiwch y Cyngor i ddweud wrthynt am hynny ar:cynllunio@gwynedd.llyw.cymru. Os ydych yn dymuno trosglwyddo tystiolaeth sain neu fideo i’r Cyngor a chanfod na allant dderbyn atodiadau dros faint ffeil penodol, rhowch wybod i ni drwy ymateb i’r e-bost hwn a byddwn yn eich helpu i gael eich tystiolaeth iddynt.

4) Rydym hefyd wedi canfod ac adrodd am ddiffygion difrifol yng nghyflwyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru i Gyngor Gwynedd – gallwch ddarllen ein e-byst diweddar am hyn drwy glicio ar y dolenni canlynol:

https://cloud.caernarfonlan.cymru/index.php/s/tzdpGa36CmErFpf

https://cloud.caernarfonlan.cymru/index.php/s/LYX9DLdwS5mXoiN

Os oes gan unrhyw un gwestiwn penodol neu hoffi cael mwy o fanylion am y cyfnewidiadau e-byst y mae'r pwyllgor wedi bod yn ymwneud â nhw ynghylch y ddau gais, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch o galon i chi gyd – ymlaen a ni !!!!!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top