5

Caernarfon Lân

Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment

Galwad am help!

Yn y diweddariad diwethaf, wnaethom sôn am bwysigrwydd ystyried cael help arbenigwyr proffesiynol i gryfhau ein dadleuon ac i lefaru o'n plaid yn y Gwrandawiadau Cyhoeddus y byddwn yn ymwneud â nhw ar ôl y Nadolig.

Rydym bellach wedi gallu comisiynu Arbenigwyr Sŵn ac wedi cael dyfynbris da iawn gan ymgynghorwyr ansawdd aer, ar gyfer cynhyrchu adroddiadau cychwynnol ar y diffygion yn adroddiadau Sŵn ac Ansawdd Aer Jones Brothers.

Rhoddodd Suono UK lawer o gymorth am ddim gyda'n sylwadau diweddaraf, a gyflwynwyd i Arolygydd Cynllunio PEDW ar ymatebion Jones Brothers i'w hymholiadau

Bydd cael aadroddiadau Sŵn a Llygredd Aer ein hunain, wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol, yn ein galluogi i gyflwyno Datganiadau Clyw cryf iawn ar gyfer y Gwrandawiadau Cyhoeddus ar Sŵn ac Aer y cawsom ein gwahodd i gyfrannu atynt yn y flwyddyn newydd.

Diolch am haelioni sawl rhoddwr caredig ar ein tudalen GoFundMe. Erbyn hyn, rydym wedi gallu talu yr ymgynghorwyr sŵn £700 (ar gyfradd is) am eu hadroddiad cychwynnol. 

Er hynny, er mwyn symud ymlaen, mae angen i ni godi mwy o arian ar frys ar gyfer adroddiad cychwynnol yr ymgynghorwyr ansawdd aer ac ar gyfer yr holl waith arall yn y dyfodol y bydd ei angen arnom gan y rhain ac arbenigwyr eraill - yn benodol: gweithio ar adroddiad tebyg sy'n ymdrin â diffygion yn nadleuon Ansawdd Aer JB; talu am bresenoldeb y ddau ymgynghorydd i lefaru o blaid ein dadleuon yn y gwrandawiadau cyhoeddus perthnasol; cynhyrchu adroddiadau yn dilyn y gwrandawiad a hefyd gwaith i'r dyfodol pe bai JB yn apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau sy'n mynd yn eu herbyn.

Ar ôl cael gwell syniad o'r costau dangosol y gwaith hwn, mae Pwyllgor Lân Caernarfon wedi amcangyfrif bod angen gosod targed GoFundMe o £10,000 i'n galluogi i gynnal ac ennill y frwydr i atal dau ddatblygiad llygredig Jones Brothers.

O ganlyniad rydym yn nawr yn cyflwyno cais brys i bawb wneud pa bynnag gyfraniad y gallant ei fforddio i helpu i atal yn llwyr y datblygiadau hyn sy'n cael eu bygwth arnom ...!

Gallwch wneud hynny'n hawdd ar ein gwefan GoFundMe - cliciwch yma neu gludwch y cyfeiriad canlynol i'ch porwr: https://gofund.me/bf3da840

Fel yr eglurwyd gennym yn ein diweddariad diwethaf, mae ein trysorydd yn berson proffesiynol sydd â phrofiad o archwilio sector cyhoeddus, felly bydd eich arian yn ddiogel!  Hefyd, os byddwn yn lwcus iawn a chanfod ein bod wedi codi mwy o arian nag sydd ei angen i ennill y frwydr, byddwn yn rhoi cyfle i bawb bleidleisio i ddewis achosion da perthnasol i drosglwyddo yr arian dros ben iddynt.

Felly, plís ychwanegwch eich cefnogaeth yn awr, beth bynnag y gellwch ei fforddio i helpu i ennill y frwydr!

Yma ceir diweddariad cyflym ar faterion allweddol a dyddiadau pwysig wrth symud ymlaen:

Ar y cais malu concrit:

-       Bydd Pwyllgor Cynllunio Gwynedd yn cyfarfod ar y 9fed o Ragfyr i benderfynu ar y cais prosesu concrit a addasu ffordd.
-       Bydd cynrychiolydd o Gaernarfon Lân yn cael siarad am dri munud yn y cyfarfod hwnnw i grynhoi ein hachos yn erbyn y cynigion. Bydd y cynghorydd lleol, Menna Trenholme, sy'n gefnogol iawn i'n hachos, hefyd yn annerch y pwyllgor.
-      Mae Pwyllgor Caernarfon Lân yn casglu tystiolaeth fideo ddamniol sy'n dangos symudiadau diweddar llwythi HGV ar y safle sy'n ymddangos yn groes i amodau cynllunio diweddar a'r cyfarwyddiadau i ymatal, a gyhoeddwyd gan y Cyngor i Jones Brothers.  Byddwn yn anfon dolen y fideos yma at Adrannau  Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor, a hefyd at ein holl gefnogwyr, cyn gynted ag y bydd ar gael.

Ar y cais Gorsaf Brig Nwy:
-      Gyda chymorth ardderchog ein bargyfreithiwr a'n hymgynghorydd sain, cyflwynodd Caernarfon Lân i Arolygydd PEDW set gref o sylwadau ar ymatebion Jones Brothers i 14 ymholiad gan  PEDW - os nad ydych eisoes wedi clicio'r ddolen uchod, gallwch glicio yma i weld beth á anfonom.
-                Nawr, mae gennym tan 31 Ionawr i gyflwyno tri Datganiad Gwrandawiad 3,000 o eiriau i'w hystyried yn y tri Gwrandawiad rydyn ni wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan ynddynt: Sŵn, Ansawdd Aer a Chynllunio - gyda'ch help chi, byddwn yn cael mwy o gyngor arbenigol ar hyn i gyd.....
-        Bydd y gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos cychwyn 17 Chwefror. Byddant yn 'gyhoeddus', h.y. hawl i unrhyw un fynychu. Mae Siân Gwenllian, ein Haelod Senedd, am ddwyn pwysau i gynnal y cyfarfodydd hyn yng Nghaernarfon - byddwn yn rhoi rhagor o fanylion i chi i gyd cyn gynted ag y gallwn.












Scroll to Top