Y Cynigion
Ers Awst 2023, mae'r gymuned lleol wedi bod yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth a phryderon am y ddau datblygiad sy’n cael eu cynnig ar yr hen safle chwarel gyfagos i Ffordd Melin Seiont: cynnigir y ddau gais gan Jones Brothers (Civil Engineering) Co Ltd a’u his-gwmni, Seiont Ltd.
‘Ffatri brig (“peaking plant”) wedi'u bweru â nwy
- Darllenwch y cais yma: https://planningcasework.service.gov.wales/ drwy chwilio am DNS CAS-02628-Y1D2Z7 - dewisiwch edrych ar y ‘Main Party - Submission Document’ yn unig, er mwyn cuddio y dogfennau cyn-gyflwyno sydd hefyd dal ar y safle.
Cyngor Gwynedd: Mynediad i'r safle ar gyfer y dyddiad cau byr (14/6/24) ymgynghoriad lleol rhagarweiniol ar y Ffatri Brig: linc yma (neu ewch i Restr Wythnosol Cyngor Gwynedd a chwiliwch am CAS-02628-Y1D2Z7)
Ffatri malu concrid
Bydd llawer o lorïau swnllyd a llygrol yn cludo'r concrid gwastraff i'r safle ac yn cludo'r cynnyrch terfynol i ffwrdd: deunydd wedi ei “lawr-gylchu” o ansawdd gwael, yn hytrach na deunydd wedi'i ailgylchu.
Dim ond cyflwyno cais i bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ar gyfer penderfyniad terfynol y bydd rhaid i Jones Brothers i osod safle malu concrid ar yr un safle. Rydym yn erfyn ar y cyngor i beidio ag ystyried y penderfyniad ar wahân i'r cynnig am orsafoedd brig nwy.
Y Lleoliad
Y lleoliad basai'r hen safle Gwaith Brics Seiont, ger Ysbyty Eryri, a’r caeau rygbi a’r cae pêl-droed ‘3G’ yng Nghlwb Rygbi Caernarfon. Cliciwch yma i weld y lleoliad ar Google Maps.
Beth yw ein gwrthwynebiadau?
Discover more from Caernarfon Lân
Subscribe to get the latest posts to your email.