Rhowch eich cyfeiriad ebost yma i gael y newyddion diweddaraf gennym:
Dyma ddatganiad i'r wasg anfonom yn ddiweddar. Llun: Siân Gwenllian AS gyda’r grŵp ymgyrchu ‘Caernarfon Lân.’
Mae Caernarfon Lân yn griw o drigolion pryderus sy’n ymgyrchu yn erbyn dau ddatblygiad sydd ar y gweill yn hen safle gwaith brics yn y dref.
Y cyntaf o'r cynigion gan Jones Brothers Ltd yw gorsaf nwy deg injan, 20MW i gynhyrchu trydan i'w werthu i'r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr. Ymysg y pryderon niferus ynghylch y cynnig hwnnw mae allyriadau gwenwynig a llygredd sŵn, a’i effaith niweidiol bosibl ar iechyd pobl leol a byd natur. Mae'r ail gynnig yn gais i osod gwaith malu a phrosesu concrit ar yr un safle.
Mae Gretel Leeb, sy’n cadeirio’r pwyllgor sy’n ymgyrchu yn erbyn y ddau gynnig, wedi cydlynu’r gwaith o ysgrifennu dwy Ddogfen Gwrthwynebiad sylweddol sy’n nodi rhesymau technegol ac amgylcheddol pam y dylid gwrthod y ddau gynnig. Yn ôl Gretel:
“Mae’r grŵp wedi ymgyrchu ers misoedd yn erbyn y gwaith nwy arfaethedig yng Nghaernarfon, gan nodi’n glir y bygythiadau amgylcheddol a’r bygythiadau i iechyd pobl leol a fyddai’n cael ei achosi.
“Yna, cyn y Nadolig, daeth cynigion newydd i’r amlwg ar gyfer gorsaf chwalu a phrosesu concrit ar yr un safle.
“Bydd y lleoliad arfaethedig, sef safle hen Chwarel Seiont, yn achos pryder i bobl leol. Mae wedi’i amgylchynu gan stadau tai, ysbyty, parc lleol a chaeau chwaraeon, yn ogystal ag Afon Seiont a choetir naturiol hynafol. O ystyried hyn oll, mae’n bosibl mai hwn fyddai’r safle gwaethaf posibl ar gyfer y ddau ddatblygiad yma.
“Mae gweithfeydd ‘brig’ nwy yn cynhyrchu lefelau uchel o sŵn pan fyddant yn gweithredu, ac maent yn gollwng nifer o nwyon niweidiol gan gynnwys NOx. Mae effeithiau’r nwyon hynny ar iechyd pobl yn cynnwys cynnydd mewn clefydau fel asthma; cyflyrau ar y galon; a niwed i'r ysgyfaint.
“Ar ben hynny mae bygythiadau difrifol posibl o ganlyniad i’r sŵn, y llwch a’r gronynnau niweidiol a fyddai’n cael eu cynhyrchu gan yr orsaf goncrit arfaethedig. Hefyd, mae’n cael ei amcangyfrif y byddai 120 lori’n ymweld â’r safle bob dydd. Mae’r bygythiad go iawn i ecosystemau lleol ac i fioamrywiaeth yr ardal hefyd yn destun pryder mawr.
“Credwn y byddai’r naill gynnig neu’r llall yn mynd yn groes i reoliadau newydd Llywodraeth Cymru a newidiadau mewn polisi cynllunio sy’n ymwneud â sŵn, llygredd aer a bioamrywiaeth.”
Cynhaliodd ymgyrch ‘Caernarfon Lân’ gyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon ym mis Tachwedd i drafod eu gwrthwynebiad i'r datblygiad. Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli’r dref yn y Senedd ac roedd yn bresennol yn y cyfarfod. Yn ôl Siân:
“Dw i wedi mynegi fy mhryderon ynghylch gorsaf nwy brig arfaethedig yn nhref Caernarfon mor gynnar ag Awst 2023, a dw i wedi mynegi’r pryderon hynny i Lywodraeth Cymru a fydd yn y pen draw yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar argymhellion Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. (PEDW).
“Dw i wedi ei wneud yn glir ar lawr y Senedd fy mod yn credu bod y cynnig yn groes i ysbryd a gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thargedau hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun, ac y dylid ei wrthod ar y sail hwnnw.
“Ond ers hynny, mae cynigion ar gyfer gwaith chwalu concrit ar yr un safle wedi dod i’r amlwg.
“Pe bai’r argymhellion yn cael eu cymeradwyo, mae’n cael ei amcangyfrif y byddai llif y traffig yn gyfwerth ag 1 lori bob 5 munud, 10 awr y dydd, 5.5 diwrnod yr wythnos. Ar ben hynny, yn ogystal â lefelau sŵn uchel, mae'r broses chwalu concrid yn defnyddio llawer iawn o drydan a llawer iawn o ddŵr i wlychu'r llwch niweidiol sy’n cael ei creu gan y broses.
“Afraid dweud, fel sy'n wir am yr orsaf nwy, mae peryglon difrifol i iechyd a lles pobl, ac i gynaliadwyedd yr amgylchedd naturiol o'i amgylch.
“Dw i wedi gofyn am sicrwydd gan Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd y bydd yr ail gais yn mynd gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, ac na fydd yn nwylo swyddogion cynllunio yn unig. Os felly, bydd fy etholwyr yn gallu mynegi eu barn i’w cynghorwyr lleol a fydd yn eu tro yn gallu cyfleu eu pryderon i aelodau’r pwyllgor.”
Tra bod y penderfyniad terfynol ar yr orsaf nwy yn nwylo Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i’r cais i greu gwaith chwalu concrit fynd i Gyngor Gwynedd am benderfyniad terfynol. Mae’r cynghorydd lleol Plaid Cymru Dewi Wyn Jones yn cynrychioli ward Peblig, sy’n ffinio ar y safle arfaethedig. Mae wedi gwneud ei wrthwynebiad yn glir.
“Fel cynghorydd lleol ac Aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol yr Hendre sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r safle arfaethedig, dw i wedi datgan yn glir fy ngwrthwynebiad i’r cynigion, ar sail y dystiolaeth bendant sydd ar gael.
“Mae ymgyrchwyr lleol wedi ei gwneud hi’n glir bod rhaid gwrthwynebu’r ddau ddatblygiad. Mae’n debygol y bydd y gwaith nwy a’r peiriant chwalu concrit yn cael eu cyflwyno fel cynigion ar wahân, ond serch hynny mae’r bygythiadau y maent yn eu hachosi i iechyd pobl leol a’r amgylchedd yr un peth.”
Mae ymgyrch Caernarfon Lân wedi lansio deiseb lle gall pobol leol leisio eu gwrthwynebiad. Gellir dod o hyd i'r ddeiseb yma, neu drwy fynd i wefan yr ymgyrch caernarfonlan.cymru.