Diogelu ein iechyd ac amgylchedd | Protecting our health and environment
Rydym yn griw o drigolion Caernarfon (a chyfagos) yn pryderu am gynlluniau Jones Brothers’ Ltd, gan fygwth yr ardal o fewn ac o gwmpas hen safle gwaith brics Seiont, Caernarfon. Rydym wedi paratoi deiseb a dogfen wrthwynebiad fanwl ar gyfer eu dau gynnig: ‘peiriant brigo’ cynhyrchu trydan nwy a gwaith malu concrit.